mwy na ans
Arwydd: >
Wrth gymharu dau rif, gallwn ddweud bod un rhif yn fwy na’r llall. Rydym yn defnyddio’r arwydd > i ddangos hyn.
Er enghraifft, mae 5 > 4 yn golygu bod 5 yn fwy na 4.
Y rhif mwyaf sy’n cael ei nodi’n gyntaf bob tro.
Mae’r llun yn dangos set o werthoedd sy’n fwy na 3.
Y gwrthwyneb i ‘mwy na’ yw ‘llai na’.