lluosrif cyffredin lleiaf eg
Dyma’r enw ar y rhif lleiaf y mae dau neu ragor o rifau eraill yn rhannu iddo.
Er enghraifft:
-
• lluosrifau 3 yw 3, 6, 9, 12, 15, 18, 21, 24, 27, 30, 33, 36, …
• lluosrifau 4 yw 4, 8, 12, 16, 20, 24, 28, 32, 36, 40, 44, 48, …
• lluosrifau 6 yw 6, 12, 18, 24, 30, 36, 42, 48, 54, 60, 66, 72, …
Wrth edrych ar y lluosrifau hyn, gallwn weld mai lluosrifau cyffredin 3, 4 a 6 yw 12, 24, 36.
Felly, 12 yw lluosrif cyffredin lleiaf 3, 4 a 6.
Mae’r acronym LlCLl weithiau’n cael ei ddefnyddio.