theorem Pythagoraseb

Theorem fathemategol ar gyfer triongl ongl sgwâr yw theorem Pythagoras.

Mae arwynebedd y sgwâr ar hypotenws triongl ongl sgwâr yn hafal i swm arwynebeddau’r sgwariau ar ddwy ochr arall y triongl.

Rydym yn ysgrifennu theorem Pythagoras yn y ffurf a² + b² = c². Mae a, b ac c yn cyfeirio at hyd ochrau triongl ongl sgwâr fel y mae’r diagram yn ei ddangos.