dis (disiau)eg
Mae dis cyffredin ar ffurf ciwb.
Ar bob un o wynebau’r dis mae dotiau sy’n mynd o 1 i 6. Mae’r dotiau ar yr wynebau cyferbyn yn adio i 7:
1 + 6
2 + 5
3 + 4
Nid dis cyffredin ar ffurf ciwb yw’r unig fath o ddis. Mae polyhedronau eraill yn cael eu defnyddio fel dis, er enghraifft tetrahedron (pedwar wyneb) neu octahedron (wyth wyneb).