papur isometrig eg
Ar bapur isometrig, mae dotiau wedi eu gosod fel ei bod yn bosibl eu cysylltu drwy dynnu llinellau syth i ddau gyfeiriad gwahanol – fertigol a chroeslinol – fel sy’n cael ei ddangos yn y llun.
Mae’r dotiau wedi eu gosod ar ongl 60°, ac felly mae’n bosibl lluniadu trionglau hafalochrog ar y papur.
Fel arfer, mae papur isometrig yn cael ei ddefnyddio luniadu cynrychioliad dau ddimensiwn o siâp tri dimensiwn fel sy’n cael ei ddangos yma.