ffactoriobe
Dyma’r term am y broses sy’n ailysgrifennu rhywbeth fel lluoswm o wrthrychau eraill. Yr enw ar y gwrthrychau hyn yw ffactorau.
Mae’r ffactorau hyn yn gallu cael eu lluosi yn ôl i roi’r gwrthrych gwreiddiol.
Gadewch i ni ddefnyddio’r mynegiad 15x + 20x² fel enghraifft.
Ffactor cyffredin mwyaf y mynegiad hwn yw 5x. Hynny yw, 15x = 5x × 3 a 20x² = 5x × 4x.
Felly, 15x + 20x² wedi ei ffactorio yw 5x(3 + 4x).
Gwrthdro ffactorio yw ehangu.