cos eg

Mae cos (neu cosin yn llawn) yn ffwythiant trigonometrig sy’n rhoi’r gymhareb rhwng dwy ochr benodol mewn triongl ongl sgwâr.

Mewn triongl ongl sgwâr, mae un ongl yn 90° ac mae’r ddwy ongl arall yn onglau llym.

Gadewch i ni labelu un o’r onglau llym yn θ.

Cos yr ongl hon yw’r gymhareb rhwng hyd yr ochr agos a hyd yr hypotenws (yr ochr sydd gyferbyn â’r ongl sgwâr).

Felly, y ffwythiant yw:

    Cos θ = agos  \div hypotenws