cymedr (cymedrau) eg

Gwerth ‘canol’ set o rifau yw cymedr. Weithiau, rydym yn defnyddio cyfartaledd i olygu cymedr.

I gyfrifo cymedr set o ddata, rydym yn adio swm y gwerthoedd ac yn ei rannu â nifer y gwerthoedd yn y set.

Er enghraifft, mae 5 mwnci mewn sw. Dyma’u pwysau:

    Mwnci 1 = 68 kg
    Mwnci 2 = 68 kg
    Mwnci 3 = 49 kg
    Mwnci 4 = 51 kg
    Mwnci 5 = 44 kg

Cymedr = \dfrac{68 + 68 + 49 + 51 + 44}{5}

              = \dfrac{280}{5}

              = 56

Y cymedr yw 56 kg.

Rydym weithiau’n cyfeirio at ‘cymedr’ fel ‘cymedr rhifyddol’.