blaen saeth (blaenau saeth)eg
Pedrochr afreolaidd sydd â phedwar fertig a phedair ochr yw blaen saeth. Mae ganddo ddau bâr o ochrau cyfagos sy’n hafal o ran hyd, ac un ongl fewnol sy’n fwy na 180°.
Mae ei groeslinau yn croesi ar ongl sgwâr tu allan i’r siâp, ac mae ganddo un llinell cymesuredd.
Enw arall ar flaen saeth yw pen saeth.