digwyddiad cydanghynhwysol (digwyddiadau cydanghynhwysol) eg

Dyma’r term am ddisgrifio digwyddiadau nad ydyn nhw’n gallu digwydd ar yr un pryd.

Er enghraifft, wrth daflu dis mae taflu 6 a thaflu 1 yn gydanghynhwysol, oherwydd dydyn nhw ddim yn gallu digwydd ar yr un pryd.

Mewn tebygolrwydd, pan mae dau ddigwyddiad, A a B, yn gydanghynhwysol:

    T(A neu B) = T(A) + T(B)

Er enghraifft, y tebygolrwydd y bydd tîm hoci Ysgol y Dref yn ennill ei gêm nesaf yw 0.5, a’r tebygolrwydd y bydd yn cael gêm gyfartal yw 0.3. Felly, y tebygolrwydd o ennill y gêm neu chael gêm gyfartal yw:

    T(ennill) + T(gêm gyfartal)
    = 0.5 + 0.3
    = 0.8