nfed term eg

Mae nfed term yn fynegiad sy’n defnyddio’r newidyn n er mwyn darganfod termau penodol mewn dilyniant penodol.

Er enghraifft, gyda’r mynegiad 4n + 3, gallwn gyfrifo tri therm cyntaf y dilyniant fel hyn:

    4 × 1 + 3 = 7

    4 × 2 + 3 = 11

    4 × 3 + 3 = 15

Gallwn ddarganfod unrhyw derm yn y dilyniant gan ddefnyddio’r rheol hon. Er enghraifft, y 50fed term fyddai 4 × 50 + 3 = 203.