siart cylch (siartiau cylch) eg

Dyma’r enw ar un ffurf bosibl o gyflwyno gwybodaeth ystadegol.

Siart ar siâp cylch yw hwn. Mae wedi’i rannu’n sectorau, ac mae pob sector yn cynrychioli maint cymharol pob gwerth.

Er enghraifft, rydych chi wedi cynnal arolwg i ddarganfod pa fath o ffilmiau mae eich ffrindiau yn eu hoffi.

Mae’r tabl cyntaf yn dangos y canlyniadau.

I ddangos y canlyniadau hyn ar ffurf siart cylch, rhaid cyfrifo’r ongl ar gyfer pob sector. Gan gofio bod 360° mewn cylch, rydym yn rhannu pob amlder â chyfanswm nifer eich ffrindiau, ac yna’n lluosi â 360°. Mae’r ail dabl yn dangos hyn.

Nawr, mae gennych chi’r wybodaeth angenrheidiol i luniadu’r siart cylch.