lluoswm (lluosymiau) eg

Dyma’r enw ar yr ateb rydych chi’n ei gael wrth luosi dau neu ragor o rifau.

Er enghraifft, lluoswm y rhifau 1, 2, 3 a 4 yw 24 gan mai’r ateb i’r sym 1 × 2 × 3 × 4 yw 24.