diagram Venn (diagramau Venn) eg
Os oes cysylltiad rhwng dau beth, mae perthynas rhyngddyn nhw.
Un ffordd o ddangos y berthynas hon yn glir yw defnyddio diagram Venn.
Edrychwch ar yr enghraifft hon.
Mae Emma eisiau gwybod pa chwaraeon mae ei ffrindiau yn eu chwarae.
Dyma’r canlyniadau:
-
Mae Nadia, Haf, Rhian a Bethan yn chwarae hoci.
Mae Nia, Susan, Haf, Nushin a Rhian yn chwarae pêl-rwyd.
Gallwn roi eu henwau mewn dau gylch ar wahân, ond wrth eu cyfuno mewn diagram Venn, gan roi’r merched sy’n chwarae’r ddwy gêm yn y rhan ganol, gallwn weld pa rai sy’n chwarae hoci a phêl-rwyd.
Mae diagram Venn wedi’i enwi ar ôl y rhesymegwr John Venn.