arwydd (arwyddion) eg

Dyma’r term am symbol sy’n cael ei ddefnyddio i ddangos gweithrediad.

Dyma rai o’r arwyddion mwyaf cyffredin:

    + adio/plws

    tynnu/minws

    × lluosi

    ÷ rhannu

    = yn hafal i

Mae arwydd plws neu arwydd minws yn cael ei ddefnyddio i ddangos a yw rhif yn bositif neu’n negatif.

Er enghraifft, +12, –3.

Mae’r arwyddion hyn yn dangos i ba gyfeiriad o’r tarddbwynt mae rhif wedi ei leoli. Mae’r llinell rif yn dangos hyn.

Fodd bynnag, nid yw rhifau positif yn dangos yr arwydd plws bob tro, felly, mae ‘3’ mewn gwirionedd yn ‘+3’.