trapesiwm (trapesiymau)eg
Pedrochr afreolaidd sydd â phedwar fertig a phedair ochr yw trapesiwm.
Mae ganddo un pâr o ochrau paralel. Nid yw’r pâr arall o ochrau yn baralel (pe bai’r ochrau hyn yn baralel, paralelogram fyddai’r trapesiwm).
Fel arfer does dim llinellau cymesuredd gan drapesiwm. Yr eithriad yw trapesiwm isosgeles sydd ag un llinell cymesuredd.
Y fformiwla ar gyfer arwynebedd trapesiwm yw:
(1)
Mae a a b yn cyfeirio at hyd yr ochrau paralel, ac mae u yn cyfeirio at uchder y trapesiwm, sef y pellter perpendicwlar rhwng yr ochrau paralel a a b.