chweched eg
Mae dau ystyr i ‘chweched’:
(1) Mae’n gallu golygu un rhan o chwech sy’n cael ei gofnodi fel ffracsiwn, .
Er enghraifft, mae’r llun cyferbyn yn dangos teisen wedi’i rhannu’n chwe darn cyfartal.
Mae Seren yn cymryd un darn o’r deisen, felly mae hi’n cael .
(2) Gall hefyd olygu rhif 6 mewn cyfres o rifau.
Mae 6ed yn ymddangos ar ôl y 5ed, ond cyn y 7fed.
Er enghraifft, mae 7 person yn aros i weld y deintydd. Maen nhw wedi’u rhestru yn ôl trefn amser eu hapwyntiad.
Dylan yw’r 6ed person ar y rhestr.