rhif trionglog (rhifau trionglog) eg
Dyma’r enw ar rif sy’n cael ei gynrychioli gan batrwm trionglog ar ffurf dotiau.
Wrth adio rhes arall o ddotiau, a chyfrif pob un o’r dotiau, gallwn ddarganfod y rhif nesaf yn y dilyniant.
Dyma ddechrau’r dilyniant:
-
1 = 1
1 + 2 = 3
1 + 2 + 3 = 6
1 + 2 + 3 + 4 = 10
1 + 2 + 3 + 4 + 5 = 15
…
Felly, mae 1, 3, 6, 10, 15 ac yn y blaen yn rhifau trionglog. Mae’r llun cyferbyn yn dangos sut mae’r dilyniant yn edrych ar ffurf dotiau.