tynnu gan ddadelfennu be
Mae’r rhif yn y llinell uchaf yn cael ei dorri i lawr i gynorthwyo’r cyfrifiad.
Gallwn ddefnyddio’r sym ganlynol fel enghraifft.
-
182 – 26 = 156
Nid ydym yn gallu tynnu 6 o 2, felly rhaid newid yr 8 Deg yn 7 Deg ac adio 10 Uned at y 2 gwreiddiol i roi 12. Yn dilyn hyn, rydym yn gallu tynnu 6 o 12 sy’n rhoi 6. Yna, rydym yn tynnu 2 o 7 sy’n rhoi 5.