rhifiadur (rhifiaduron) eg

Hwn yw’r enw ar y rhif uwchben y llinell mewn ffracsiwn.

Mae’n nodi pa sawl un sydd o’r rhif sy’n cael ei gynrychioli gan yr enwadur.

Er enghraifft, yn y ffracsiwn \dfrac{3}{4} y rhifiadur yw 3.