ffracsiwn (ffracsiynau)eg

Canlyniad rhannu un cyfanrif â chyfanrif arall yw ffracsiwn.

Mae’n cael ei ysgrifennu fel dau rif wedi’u gwahanu gan linell rannu.

Mae’r rhifiadur yn dangos sawl rhan sydd gennym ni, ac mae’r enwadur yn dangos i sawl rhan gyfartal mae’r eitem yn cael ei rhannu.