canran (canrannau) eb
Arwydd: %
Ystyr canran yw ‘ym mhob 100’ neu ‘allan o 100’. Mae’n cael ei dangos gan yr arwydd %.
Mae canran yn rhif sy’n gallu cael ei fynegi fel ffracsiwn o 100.
Er enghraifft, mae 25% o’r blwch cyferbyn yn wyrdd.
Mae 25% yn hafal i , neu 0.25, neu un chwarter.
Mae 50% yn hafal i , neu 0.50, neu un hanner.
Mae 75% yn hafal i , neu 0.75, neu dri chwarter.
Mae 100% yn hafal i un cyfan.
Gallwn gyfrifo canran o rywbeth hefyd, sef defnyddio’r canran fel gweithredydd.
Gadewch i ni ddefnyddio’r canlynol fel enghraifft.
Dychmygwch fod sêl mewn siop ddodrefn. Mae 15% o ostyngiad ar bopeth. Rydych chi wedi gweld cadair rydych chi’n ei hoffi sy’n costio £300. Beth yw 15% o £300?
Mae 3 chant mewn 300.
Ystyr 15% yw 15 allan o bob 100.
15% o 300 = 3 × 15 = 45
Felly, 300 – 45 = 255.
Cost y gadair yn y sêl yw £255.