polygon amlder (polygonau amlder) eg
Mae polygon amlder yn cael ei ddefnyddio i arddangos data di-dor wedi’u grwpio.
Mae’n cael ei ffurfio trwy ddefnyddio llinellau syth i uno canolbwynt pen uchaf pob bar mewn diagram amlder.
Gadewch i ni ddefnyddio’r canlynol fel enghraifft.
Mesurwyd taldra 30 o ddisgyblion mewn gwers Gymraeg. Mae’r canlyniadau i’w gweld yn y blwch cyferbyn.
Mae’r data yn cael eu grwpio fel sy’n cael ei ddangos yn y tabl.
I ddarganfod canolbwynt pob grŵp, rydym yn adio ffiniau pob cyfwng ac yn rhannu’r cyfanswm â 2:
Yna, gallwn ffurfio polygon amlder gan ddefnyddio’r pwyntiau hyn.