tebygolrwydd damcaniaethol eg
Dyma’r term am ragfynegiad o ba mor aml y bydd canlyniad penodol yn digwydd os yw arbrawf yn cael ei ailadrodd nifer penodol o weithiau.
Rydym yn defnyddio’r gymhareb
T (digwyddiad) = (nifer y canlyniadau penodol)/(nifer y canlyniadau posibl)
i gyfrifo‘r tebygolrwydd damcaniaethol o ddigwyddiad ‘T’ yn digwydd.
Er enghraifft, mae Jac yn taflu darn 10c.
Y tebygolrwydd damcaniaethol y bydd Jac yn taflu pen yw 1/2.