ffigur ystyrlon (ffigurau ystyrlon) eg
Dyma’r enw ar bob un o’r digidau sydd eu hangen mewn rhif i ddynodi’r rhif hwnnw i’r manwl gywirdeb priodol.
Weithiau wrth roi ateb i gyfrifiad, nid oes rhaid iddo fod yn fanwl gywir – mae amcangyfrif yn ddigon.
Fodd bynnag, mae rhaid bod yn fwy cywir ar adegau eraill, ac felly rydym yn talgrynnu rhif i nifer penodol o ffigurau ystyrlon.
Y ffigur ystyrlon cyntaf yw’r digid cyntaf sydd ddim yn sero.
Er enghraifft, 0.063 yn gywir i 1 ffigur ystyrlon yw 0.06.
Pan mae’r ateb i gyfrifiad yn rhif hir, gallwn ei dalgrynnu i’r fil neu’r filiwn agosaf. Pan fydd hyn yn digwydd, efallai y bydd angen ychwanegu seroau i gadw’r gwerth lle.
Mae’r rhifau canlynol yn dangos hyn. Maen nhw wedi’u talgrynnu i nifer penodol o ffigurau ystyrlon:
• 19 984 = 20 000 to 2 ffig. yst.
• 124 670 = 125 000 to 3 ffig. yst.
• 2 379 600 = 2 380 000 to 4 ffig. yst.