newid testun be

Wrth newid testun, rydym yn ad-drefnu hafaliad fel bod newidyn penodol yn dod yn destun yr hafaliad. Mae hyn yn golygu y bydd y newidyn yn ymddangos ar ochr chwith yr hafaliad ar ei ben ei hun.

Er enghraifft, ystyriwch fod cwestiwn yn gofyn i ni wneud y newidyn y yn destun yr hafaliad 4x = 6z – 2y.

  • I ddechrau, gadewch i ni adio 2y i bob ochr.
    Bydd yr hafaliad yn newid i 4x + 2y = 6z.
  • Yna, gadewch i ni dynnu 4x oddi wrth bob ochr i’r hafaliad.
    Bydd yr hafaliad yn newid i 2y = 6z – 4x.
  • Yn olaf, gadewch i ni rannu bob term yn yr hafaliad â 2.
    Bydd yr hafaliad yn newid i y = 3z – 2x.

Nawr, gallwch chi weld y newidyn y ar ochr chwith yr hafaliad ar ei ben ei hun. Felly, gallwn ni ddweud mai y yw testun yr hafaliad.