canslo ffracsiwn be

Mae canslo yn ffordd o fynegi ffracsiwn yn ei ffurf symlaf.

Mae’r rhifiadur a’r enwadur yn cael eu rhannu â ffactor cyffredin.

Gadewch i ni ganslo’r ffracsiwn isod:

cancel a fraction-03

Gallwn wneud hyn mewn dau gam:

     1) rhannu’r rhifiadur a’r enwadur â 2
     2) yna, eu rhannu â 2 unwaith eto.

cancel a fraction-01

Neu, gallwn ei wneud mewn un cam drwy rannu’r rhifiadur a’r enwadur â 4 fel hyn:

cancel a fraction-02

Mae’r ddwy ffordd yn rhoi’r ffracsiwn \frac4{12} ar ei ffurf symlaf, sef \frac13.

Rydym weithiau’n cyfeirio at ‘ganslo ffracsiwn’ fel ‘symleiddio ffracsiwn’ neu ‘leihau ffracsiwn’.