cyfrannedd union eg

Cyfrannedd union yw perthynas rhwng dau faint. Wrth i un maint gynyddu neu leihau mae’r maint arall yn cynyddu neu’n lleihau hefyd.

Er enghraifft, wrth i’r pellter mae car yn ei deithio (x) gynyddu, mae’r tanwydd mae’n ei ddefnyddio yn cynyddu (y).

Gallwn ysgrifennu’r berthynas hon fel yx, sy’n cael ei fynegi mewn geiriau fel hyn:

    Mae y mewn cyfrannedd union ag x.