confensiwn (confensiynau)eg
Y drefn neu’r ffordd mae rhywbeth fel arfer yn cael ei wneud yw confensiwn.
Er enghraifft, ystyriwch y sym 2 + 3 × 4.
Y confensiwn mathemategol yw lluosi yn gyntaf ac yna adio.
Felly, yr ateb i 2 + 3 × 4 yw 14:
2 + 12 = 14
nid
5 × 4 = 20