llinell ffit orau (llinellau ffit orau)eb

Dyma’r enw ar linell sy’n cael ei thynnu ar ddiagram gwasgariad i ddangos cydberthyniad.

I dynnu’r llinell hon, rydym yn gosod pren mesur ar y diagram nes bod tua’r un nifer o bwyntiau ar y naill ochr a’r llall i’r llinell. Bydd goledd y llinell yn cyd-fynd â goledd cyffredinol y pwyntiau.

Mae’r diagram gwasgariad cyferbyn yn dangos cydberthyniad taldra a phwysau.