pwynt degol (pwyntiau degol) eg

Arwydd: .

Dyma’r term am y pwynt neu’r dot sy’n cael ei ddefnyddio i wahanu rhif cyfan oddi wrth ddegolyn.

Mae’r pwynt degol yn cael ei roi i’r dde o’r golofn Uned, ac mae pob colofn ar ôl y pwynt degol yn cynnwys rhan ffracsiynol sy’n cael ei hadnabod fel lle degol (degfed, canfed, milfed ac yn y blaen).

Er enghraifft, yn y rhif 32.5 mae’r pwynt degol yn gwahanu’r 32 (sef y rhif cyfan) oddi wrth y 5 (sef y degolyn).