tan eg

Mae tan (neu tangiad yn llawn) yn ffwythiant trigonometrig sy’n rhoi’r gymhareb rhwng dwy ochr benodol mewn triongl ongl sgwâr.

Mewn triongl ongl sgwâr, mae un ongl yn 90° ac mae’r ddwy ongl arall yn onglau llym.

Gadewch i ni labelu un o’r onglau llym yn θ.

Tan yr ongl hon yw’r gymhareb rhwng hyd yr ochr sydd gyferbyn â’r ongl θ a’r ochr sydd rhwng yr ongl θ a’r ongl sgwâr (yr ochr sy’n cael ei labelu agos).

Felly, y ffwythiant yw:

    Tan θ = cyferbyn  \div agos