llog syml eg
Llog sy’n cael ei gyfrifo ar y swm gwreiddiol yn unig yw llog syml.
Mae’n wahanol i adlog sy’n cael ei gyfrifo ar y swm cyfan.
Mae llog syml fel arfer yn cael ei gyfrifo unwaith y flwyddyn, bob blwyddyn.
Mae dwy ffordd y gall llog syml ddigwydd:
-
(1) Rhoi arian yn y banc sy’n golygu bod y banc yn talu llog syml i chi.
(2) Cael benthyg arian gan y banc sy’n golygu bod yn rhaid i chi dalu llog syml i’r banc.
Er enghraifft, mae Raj eisiau benthyg arian i brynu cyfrifiadur newydd.
Mae ei fanc yn fodlon rhoi benthyg £200 iddo ar gyfradd o 5% dros gyfnod o 3 blynedd.
Rydym yn cyfrifo’r llog syml y bydd yn rhaid i Raj ei dalu yn ôl i’w fanc fel hyn:
-
5% × £200 × 3 blynedd
0.05 × 200 × 3 = 30
Felly, ar ôl 3 blynedd, bydd yn rhaid i Raj dalu £200 + £30 = £230.