dilyniant Fibonacci eg

Dilyniant o rifau lle mae’n rhaid adio’r ddau rif blaenorol i gael y rhif nesaf yw dilyniant Fibonacci.

Dyma’r dilyniant:

    0, 1, 1, 2, 3, 5, 8, 13, 21, 34, 55, …

Felly, ar ôl 1 ac 1, y rhif nesaf yw 1 + 1 = 2, y rhif nesaf yw 1 + 2 = 3, y rhif nesaf yw 2 + 3 = 5 ac yn y blaen.

Mae wedi’i enwi ar ôl Leonardo Bonacci, mathemategydd o’r Eidal, a oedd yn cael ei adnabod fel Fibonacci.