cyfwng dosbarth cyfartal (cyfyngau dosbarth cyfartal) eg
Dyma’r enw ar ddata sy’n deillio o gyfrifiadau ac arsylwadau sydd wedi’u grwpio mewn dosbarthiadau o’r un amrediad. Nid yw’r dosbarthiadau’n gorgyffwrdd.
Er enghraifft, mae’r tabl yn dangos marciau disgyblion mewn arholiad daearyddiaeth.
Gallwn weld bod y cyfwng dosbarth yn gyfartal gan fod y data wedi’u grwpio mewn degau fel hyn:
• Marc o 30 hyd at, ond ddim yn cynnwys, 40
• Marc o 40 hyd at, ond ddim yn cynnwys, 50
• Marc o 50 hyd at, ond ddim yn cynnwys, 60
• Marc o 60 hyd at, ond ddim yn cynnwys, 70
• Marc o 70 hyd at, ond ddim yn cynnwys, 80
• Marc o 80 hyd at, ond ddim yn cynnwys, 90.
Y cyfwng dosbarth cyfartal yw 10.