ffurf indecs safonol eb

Mae’r ffurf hon yn cael ei defnyddio wrth drin rhifau mawr iawn a rhifau bach iawn.

Mae rhifau’n cael eu hysgrifennu fel rhif rhwng 1 a 10 wedi’i luosi gan bŵer 10.

Er enghraifft, wrth drin rhifau mawr rhaid symud y pwynt degol nes bydd y rhif rhwng 1 a 10. Wedyn, rhaid cyfrif nifer y lleoedd y mae’r pwynt wedi symud, a dyna bŵer y 10:

    • 193 ar ffurf indecs safonol yw 1.93 × 102
    • 500 000 ar ffurf indecs safonol yw 5 × 100 000 = 5 × 105

Wrth drin rhifau bach, rydym ni hefyd yn symud y pwynt degol nes bydd y rhif rhwng 1 a 10. Wedyn, rhaid cyfrif nifer y lleoedd y mae’r pwynt wedi symud, a rhoi arwydd minws o’i flaen. Dyna bŵer y 10:

    • 0.000 004 ar ffurf indecs safonol yw 4 × 10⁻6
    • 0.000 635 ar ffurf indecs safonol yw 6 × 10⁻4