graddiant (graddiannau) eg
Graddiant yw mesur o ba mor serth yw llinell syth. Er enghraifft, pa mor serth yw tangiad i gromlin.
Er enghraifft, os 4 yw graddiant llinell syth, yna am bob uned rydym yn symud i’r dde ar hyd yr echelin-x, mae’n rhaid symud 4 uned i fyny ar hyd yr echelin-y.
Mae’n bosibl cyfrifo graddiant llinell syth trwy rannu’r newid fertigol mewn y â’r newid llorweddol mewn x.
Yn yr enghraifft sy’n cael ei dangos ar y graff, graddiant y llinell yw 3 ÷ 5 = 0.6.