diagram blwch a blewyn (diagramau blwch a blewyn) eg

Mae diagram blwch a blewyn yn cael ei ddefnyddio i gynrychioli set o ddata rhifiadol sydd mewn trefn. Mae’n dangos dosraniad data.

Mae’r llinellau llorweddol, sy’n cael eu henwi ‘blew’, naill ochr i’r blwch. Maen nhw’n ymestyn i’r gwerth lleiaf a’r gwerth mwyaf, ac yn dangos amrediad y dosraniad.

Mae’r math hwn o ddiagram fel arfer yn cael ei luniadu gyda llinell rif fel sy’n cael ei ddangos yn y diagram cyntaf.

Mae’r ail ddiagram yn dangos bod y gwerth lleiaf yn 10, y gwerth mwyaf yn 80, y chwartel isaf yn 22, y chwartel uchaf yn 61, a’r canolrif yn 49.