prism (prismau) eg

Siâp tri dimensiwn yw prism. Mae dau ben y prism yn gyfath. Mae ei drawstoriad hefyd yn gyfath yr holl ffordd ar ei hyd.

Mae’r siâp ar y ddau ben yn enwi’r prism. Er enghraifft, os oes siâp triongl ar ddau ben y prism mae’n brism trionglog – meddyliwch am becyn bar o siocled Toblerone. Mae tun ffa pob yn enghraifft o brism ar siâp cylch (silindr) ac mae llyfr yn enghraifft o brism ar siâp petryal (ciwboid).

Y fformiwla ar gyfer cyfaint prism yw:

     \textmd {Cyfaint} = \textmd {Arwynebedd Trawstoriad} \times \textmd {Hyd}