wythnos (wythnosau)eb Uned sy’n mesur amser. Mae un wythnos yn hafal i saith diwrnod. Felly, mae dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher, dydd Iau, dydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul yn un wythnos. Mae 52 wythnos mewn blwyddyn.