amlder cymharol eg

Yn dilyn arbrawf, prawf neu arolwg, gallwn ddefnyddio canlyniadau i amcangyfrif tebygolrwydd.

Rydym yn gwneud hyn gan ddefnyddio’r fformiwla hon:

     \textmd{tebygolrwydd arbrawf digwyddiad} = \dfrac{\textmd{sawl gwaith mae'n digwydd}}{\textmd{cyfanswm y cynigion}}

Y term am yr amcangyfrif o’r tebygolrwydd yw amlder cymharol.

Mae’r tabl yn dangos canlyniadau taflu dis 1000 gwaith.

Gallwn ddefnyddio’r canlyniadau hyn i amcangyfrif tebygolrwydd cael 6 wrth daflu’r dis.

Mae 6 wedi ymddangos 350 gwaith mewn 1000 tafliad.

Er mwyn cyfrifo’r amlder cymharol, rhaid rhannu sawl gwaith mae’r 6 wedi ymddangos, sef 350, â nifer y cynigion, sef 1000. Felly, amlder cymharol cael 6 yw 350 ÷ 1000 = 0.35.