Amser Safonol Greenwich eg

Hwn yw’r amser sy’n cael ei ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig yn ystod y gaeaf.

Mae Amser Safonol Greenwich awr yn union ar ôl Amser Haf Prydain. Er enghraifft, pan mae’n 10:00 Amser Safonol Greenwich, mae’n 11:00 Amser Haf Prydain.

Mae clociau’r Deyrnas Unedig yn cael eu troi yn ôl awr ddydd Sul olaf mis Hydref ac yn symud o Amser Haf Prydain i Amser Safonol Greenwich.

Os ydym yn defnyddio cloc sy’n dilyn Amser Safonol Greenwich, mae’r haul yn cyrraedd ei bwynt uchaf yn yr awyr am ganol dydd yn Arsyllfa Frenhinol Greenwich, Llundain.