silindr (silindrau)eg

Prism tri dimensiwn yw silindr. Mae ganddo drawstoriad siâp cylch.

Gall silindr fod yn agored (1 wyneb crwm) neu’n gaeedig (1 wyneb crwm a 2 wyneb siâp cylch). Nid oes gan silindr fertigau, ond mae ganddo ddwy ochr.

Y fformiwla ar gyfer cyfaint silindr caeedig yw:

cylinder-silindr-01

Mae r yn cynrychioli radiws y cylch ac mae u yn cynrychioli uchder y silindr (y pellter rhwng canol y ddau gylch sydd ar ddau ben y silindr).

Y fformiwla ar gyfer arwynebedd arwyneb silindr agored yw:

cylinder-silindr-02

Mewn gwirionedd siâp petryal yw silindr agored. Dychmygwch eich bod yn torri’n syth i lawr hyd y silindr ac yn ei agor allan i ffurfio petryal.

Y fformiwla ar gyfer arwynebedd arwyneb silindr caeedig yw:

cylinder-silindr-03

O’i gymharu â’r fformiwla ar gyfer arwynebedd arwyneb silindr agored, mae’n rhaid ychwanegu arwynebedd y ddau gylch sydd ar y ddau ben.