set (setiau) eb
Dyma’r enw ar gasgliad o rifau neu wrthrychau sydd â phriodweddau cyffredin.
Er enghraifft, 1, 2, 3, 4 yw’r set o rifau sy’n llai na 5.
Gallwn hefyd feddwl am set fel grŵp wedi’i gyfuno â gweithrediad. Er enghraifft, set o gyfanrifau ac adio.