hurbwrcas (hurbwrcasau) eg

Dyma’r term am y dull o brynu rhywbeth trwy dalu symiau bach o arian, ynghyd â llog, yn rheolaidd dros gyfnod o amser ar ôl derbyn y nwyddau.

Nid yw’r prynwr yn berchen ar y nwyddau tan iddo dalu’r swm terfynol, ac mae fel arfer yn talu mwy am y nwyddau wrth ddefnyddio’r dull hwn.

Er enghraifft, mae gwerthwr ceir ail-law yn gwerthu car am £5400. Mae Ben eisiau prynu’r car gan ddefnyddio’r dull hurbwrcas. Mae’r gwerthwr yn gofyn am flaendal o 30% a 24 taliad misol o £195.

Felly, i gyfrifo’r blaendal:

    30% o £5400 = 0.3 × £5400 = £1620

    Cyfanswm y taliadau misol yw 24 × £195 = £4680.

    Y pris hurbwrcas yw £1620 + £4680 = £6300.

Mae hyn yn golygu bod Ben yn talu £900 yn fwy am y car gan ddefnyddio’r dull hurbwrcas:

    £6300 – £5400 = £900.