metr sgwâr (metrau sgwâr) eg

Uned: m²

Uned fetrig sy’n mesur arwynebedd.

Mae’n bosibl lluniadu siâp sydd ag arwynebedd 1 m² trwy luniadu sgwâr sy’n mesur 1 metr wrth 1 metr.

Mae 1 metr sgwâr yn hafal i 10 000 centimetr sgwâr (1 m² = 10 000 cm²).

Mae m² yn cael ei ddefnyddio i fesur arwynebedd mawr, er enghraifft ystafell, darn o dir ac yn y blaen.