amrediad rhyngchwartel (amrediadau rhyngchwartel) eg
Er mwyn dod o hyd i’r amrediad rhyngchwartel, rhaid didoli’r data mewn trefn esgynnol i ddechrau. Gadewch i ni ddefnyddio’r setiau o ddata isod fel enghraifft:
Set o ddata eilrif | 3, 4, 2, 8, 12, 6 |
2, 3, 4, 6, 8, 12 |
Set o ddata odrif | 4, 4, 3, 4, 7, 8, 10 |
3, 4, 4, 4, 7, 8, 10 |
Yna, gallwn fynd ati i ddod o hyd i’r canolrif.
Yn y set o ddata eilrif, mae’r canolrif (canolbwynt) rhwng 4 a 6:
2, 3, 4,| 6, 8, 12
Yn y set o ddata odrif, 4 yw’r canolrif:
3, 4, 4,4 7, 8, 10
Nawr, gallwn ddod o hyd i ganolbwyntiau bob ochr i’r canolrif.
Yn y set o ddata eilrif, mae’r canolbwyntiau rhwng 3 ac 8:
2,3, 4,| 6,8, 12
Y chwartel isaf = 3
Y chwartel uchaf = 8
Yn y set o ddata odrif, mae’r canolbwyntiau rhwng 4 ac 8:
3,4, 4,4 7,8,10
Y chwartel isaf = 4
Y chwartel uchaf = 8
Er mwyn dod o hyd i’r amrediad rhyngchwartel, rhaid tynnu rhif y chwartel isaf o rif y chwartel uchaf:
Data eilrif: 8 – 3 = 5
Data odrif: 8 – 4 = 4