amrediad (amrediadau) eg
Dyma’r term am y mesur o wasgariad mewn ystadegau. Hynny yw, y gwahaniaeth rhwng y gwerth lleiaf a’r gwerth mwyaf mewn set o ddata rhifiadol.
Edrychwch ar y rhifau hyn:
3, 7, 8, 1, 5
Y gwerth lleiaf yw 1 a’r gwerth mwyaf yw 8.
Felly, yr amrediad yw 8 – 1 = 7.