centimetr sgwâr (centimetrau sgwâr) eg
Uned: cm²
Uned fetrig sy’n mesur arwynebedd.
Mae’n bosibl lluniadu siâp sydd ag arwynebedd 1 cm² trwy luniadu sgwâr sy’n mesur 1 centimetr wrth 1 centimetr.
Mae 1 centimetr sgwâr yn hafal i 100 milimetr sgwâr (1 cm² = 100 mm²).
Mae cm² yn cael ei ddefnyddio i fesur arwynebedd bach, er enghraifft ffotograff.