cyflymiad (cyflymiadau)eg
Mesur o ba mor gyflym mae cyflymder gwrthrych yn newid ar amser penodol yw cyflymiad.
Y fformiwla ar gyfer cyflymiad yw:
Bydd yr uned cyflymiad yn dibynnu ar yr unedau cyflymder a’r unedau amser sy’n cael eu defnyddio yn y cyfrifiad.
Er enghraifft, os yw cyflymder yn cael ei fesur mewn metrau yr eiliad ac amser yn cael ei fesur mewn eiliadau, yna yr uned cyflymiad yw metrau yr eiliad yr eiliad (m/s²).